Mae Ysgrifennydd Busnes llywodraeth San Steffan wedi dweud fod yna “ddadl gref” tros gyflymu’r cysylltiad rheilffordd rhwng Llundain a  dinasoedd gogledd Lloegr.

Mae Vince Cable yn dweud ei ddweud wrth i gadeirydd y prosiect HS2, Syr David Higgins, baratoi i gyflwyno amlinelliad o’r amserlen a’r gost mewn adroddiad fory (dydd Llun).

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd The Observer, mae Vince Cable yn dweud ei fod yn cefnogi’r cynllun oherwydd y byddai’n creu mwy o gydbwysedd o fewn economi gwledydd Prydain.

“Mae creu swyddi y tu allan i Lundain, a chau’r gofod rhwng gogledd a de, yn un o flaenoriaethau’r llywodraeth hon,” meddai.

“Ar bob ymweliad gyda gogledd Llundain, dw i wedi clywed busnesau ac arweinwyr cynghorau yn dadlau achos cyflymu’r cysylltiad rhwng gogledd a de,” meddai Vince Cable wedyn.”

“Rhy ddrud” meddai Balls

Yr wythnos ddiwetha’, fe fu Canghellor yr wrthblaid, Ed Balls, yn dweud y dylai Syr David Higgins ganolbwyntio yn fwy na dim ar ddod â chost y prosiect i lawr “yn sylweddol”.

Ar hyn o bryd, mae cost y prosiect wedi’i amcangyfri’ tua £42.6bn, gyda’r gost yn cynyddu o £7.5bn ar ôl prynu’r trenau cyflym.