Mae’r byd yn gwylio wrth i’r Wcrain baratoi ar gyfer cynnal refferendwm ar ddyfodol penrhyn Crimea.
Mae’r Crimea, sy’n gartre’ i longau milwrol Rwsia yn y Mor Du, wedi dod yn ganolbwynt tensiynau mawr Rwsia a’r Wcrain. Mae cyn-arlywydd Yr Wcrain, Viktor Yanukovych, wedi gadael y wlad y mid diwetha’, yn dilyn protestiadau am y modd yr oedd o’n closio at Rwsia, tra’r oedd ei wrthwynebwyr am weld y wlad yn nesu at Ewrop.
Mae Rwsia, ar y llaw arall, yn gwrthod cydnabod llywodraeth newydd Yr Wcrain, gan ddweud fod honno wedi dod i rym trwy gyrch gwleidyddol anghyfreithlon.
Dyna pam mae Rwsia wedi cymryd arni’i hun i gymryd rheolaeth o benrhyn Crimea o dan drwyn Yr Wcrain.
Mae dyfodol Crimea yn nwylo pleidleiswyr a fydd yn cael bwrw croes tros aros yn rhan o’r Wcrain, neu dorri’n rhydd a mynd efo Rwsia.