Catrin Finch
Fe fydd enillwyr Gwobrau Dewi Sant yn cael eu cyhoeddi yng Nghaerdydd heno, gyda rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar S4C.

Bydd y delynores fyd-enwog Catrin Finch yn diddanu’r gynulleidfa yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, gyda rhai o fyfyrwyr y Coleg hefyd yn perfformio.

Nod y gwobrau cenedlaethol yw cydnabod a dathlu llwyddiant pobol Cymru.

Bydd naw o wobrau’n cael eu cyflwyno ar y noson.

Gethin Jones fydd yn cyflwyno’r rhaglen fyw ar S4C am 8.25pm ac fe fydd awr o uchafbwyntiau’n dechrau am 9.30pm.

Llywodraeth Cymru sydd wedi trefnu’r noson ac mae’n cael ei chynhyrchu gan Stifyn Parri a’i gwmni, Mr Producer.

Mewn datganiad, dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd y Coleg, Dr John Cranmer fod hwn yn gyfle amhrisiadwy i’r myfyrwyr.

“Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn falch ofnadwy o gyfrannu tuag at noson seremoni Gwobrau Dewi Sant fydd yn cynnwys rhai o’n cerddorion amryddawn a thalentog ym mhob un o ardaloedd perfformio trawiadol y Coleg.

“Heb ddatgelu gormod, bydd y Coleg yn dod yn fyw gyda cherddoriaeth, cyn, yn ystod, ac yn dilyn y seremoni.

“Mae’n gyfle gwych i ni dynnu sylw at waith a llwyddiannau’r myfyrwyr gerbron cynulleidfa eang a gwerthfawrogol.”

Dywedodd Christopher Hart, sy’n drwmpedwr yn y Coleg: “Mae’n anrhydedd bod yn rhan o’r Gwobrau Dewi Sant cyntaf erioed ac yn brofiad arbennig i mi a fy nghyd-fyfyrwyr fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n denu sylw at ddewrder a llwyddiannau’r terfynwyr.”

Dywedodd y cynhyrchydd Stifyn Parri: “Rwy’n falch fod MR PRODUCER wedi cael ei ddewis unwaith eto i gynnal digwyddiad o’r fath anrhydedd ar gyfer Cymru a’i phobl. Mae’r genedl yn haeddu anrhydeddau fel Gwobrau Dewi Sant ac mae’n briodol ein bod ni’n dathlu rhai o’n cerddorion gorau ar yr un pryd.”

Mae’r rhestr fer ar gyfer pob categori i’w gweld ar www.stdavidawards.org.uk.