Mae’n rhaid i gynghorau Cymru ddod i benderfyniad terfynol heddiw ynglŷn â’u cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae’n rhaid i’r cynghorau arbed gwerth miliynau o bunnau, ar ôl i’r Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths, gyhoeddi y byddai cynghorau’n derbyn £182 miliwn yn llai ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
O ganlyniad, mae’r cynghorau wedi gorfod ystyried cael gwared a nifer o wasanaethau – gan gynnwys canolfannau hamdden a llyfrgelloedd – a chodi ffioedd ychwanegol am eraill, gan gynnwys treth cyngor.
Mae bron bob un o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cytuno ar gynnydd yn y dreth gyngor yn ystod yr wythnosau diwethaf – y cynnydd mwyaf o 5% yn Abertawe, Conwy a Cheredigion a Chyngor Caerffili, Wrecsam, Merthyr Tudful wedi cymeradwyo cynnydd o rhwng 3% a 4.5% yn eu trethi.
Dadleuol
Ledled Cymru, mae gwrthwynebiad cryf wedi bod i rai o argymhellion fwyaf dadleuol y cynghorau.
Un argymhelliad gan gabinet cyngor Merthyr Tudful yw dileu cludiant am ddim i ddisgyblion dros 16 oed yn Ysgol Gyfun Rhydywaun yn y Rhondda.
Ar ddechrau’r mis, fe wnaeth dros 350 o bobl orymdeithio trwy strydoedd Merthyr Tudful i brotestio yn erbyn cynlluniau’r cyngor, sydd angen arbed £15.3m dros y tair blynedd nesaf
Ac fe benderfynodd Gyngor Rhondda Cynon Taf i gymeradwyo toriadau a fydd yn golygu bod plant yn dechrau addysg llawn amser flwyddyn yn ddiweddarach nag y maen nhw ar hyn o bryd, gan ennyn cryn wrthwynebiad gan rieni.
Yn Wrecsam, fe wnaeth y cyngor gymeradwyo cau canolfan hamdden Plas Madoc yn Acrefair ar 12 Chwefror.
Fe wnaeth dros 2,000 o bobol yn arwyddo deiseb yn erbyn cau’r ganolfan a channoedd o bobol yn protestio y tu allan i swyddfeydd y Cyngor yn yr wythnosau diwethaf.