Mae’n debyg bod prif weithredwr grŵp y Co-operative wedi cynnig ymddiswyddo gan ddweud fod y busnes yn “anrheoladwy”.
Mae Euan Sutherland, a gymerodd yr awenau fis Mai diwethaf, yn dweud ei fod wedi ysgrifennu llythyr ymddiswyddiad i’r bwrdd mewn ymgais i ennyn eu cefnogaeth.
Yn ôl y BBC, mae aelodau’r bwrdd yn ceisio’i berswadio i aros.
Yn ôl adroddiadau, roedd Euan Sutherland wedi cynnig ymddiswyddo oherwydd ei fod yn credu bod rhywun o fewn y cwmni wedi datgelu manylion o’i becyn cyflog i’r wasg mewn ymgais i’w ansefydlogi a’i atal rhag gwneud newidiadau mawr.
Daeth i’r amlwg dros y penwythnos bod Euan Sutherland am dderbyn cytundeb gwerth £3.6 miliwn er gwaethaf y ffaith bod Co- op yn wynebu colled o £2 biliwn ar ôl yr argyfwng mwyaf yn ei hanes.
Mae’r grŵp yn wynebu cael gwared a swyddi ar raddfa fawr ar ôl blwyddyn drychinebus pan oedd angen i’w gangen bancio gael ei hachub pan ddarganfuwyd bod twll gwerth £1.5 biliwn yn y cyfrif.
Mae’r banc nawr yn wynebu ailwampio helaeth yn ogystal â chyfres o ymchwiliadau i ddarganfod beth aeth o’i le ac i ateb cwestiynau dros benodiad Paul Flowers fel cadeirydd y banc er gwaethaf y ffaith nad oedd ganddo unrhyw wybodaeth am y sector.