Llun Asiantaeth yr Amgylchedd
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhyddhau lluniau sy’n dangos effaith llifogydd difrifol ar sawl dinas fawr.
Mae’r lluniau yn cynnwys Caerdydd, ac yn dangos Parc Biwt ac ardal Glan yr Afon wedi eu gorchuddio gan Afon Taf.
Ymysg y delweddau eraill mae Llundain, Birmingham a Lerpwl.
Nod y delweddau yw dangos y perygl i Brydain os nad oes arian yn cael ei wario ar baratoi ar gyfer llifogydd difrifol.
Mae’r mapiau yn dangos y tir isel y byddai’r dŵr yn debygol o gronni arno pe bai yna lifogydd Beiblaidd.
Rhyddhawyd y delweddau ar drothwy wythnos o ymarferion, a elwir Ymarfer Watermark.
Fe fydd Ymarfer Watermark yn cynnwys tua 10,000 o bobol, 10 o adrannau Llywodraeth San Steffan, y gwasanaethau brys, a chymunedau cyfan.
Nod yr ymarferion fydd paratoi ar gyfer tywydd eithafol yn y dyfodol.
“Mae rhagor o dywydd eithafol a chynnydd yn lefel y môr yn golygu bod rhaid i ni fod yn barod i ymdopi ag effaith llifogydd difrifol,” meddai’r gweinidog amgylcheddol, Richard Benyon.