Mae Dŵr Cymru yn bwriadu gwario £86 miliwn ar greu egni adnewyddadwy o garthffosiaeth.
Daw’r gwariant ar ôl i’r cwmni sicrhau benthyciad o £100 miliwn er mwyn ariannu gwelliannau “hanfodol” i’r rhwydwaith ddŵr yng Nghymru.
Cyhoeddodd Dwr Cymru heddiw eu bod nhw wedi derbyn yr arian gan Fanc Buddsoddi Ewrop (EIB).
Bydd £150 miliwn arall, ar ben y benthyciad, yn cael ei wario ar wella rhwydwaith ddŵr Cymru, medden nhw.
Y benthyciad yw’r pedwerydd o’i fath i’r cwmni gan y EIB. Mae Dŵr Cymru eisoes wedi benthyg £235 miliwn ganddyn nhw.
Dywedodd Dwr Cymru fod £109 miliwn wedi ei glustnodi ar gyfer gwasanaeth dwr gwastraff ac amddiffyn yr amgylchedd drwy gynhyrchu egni adnewyddadwy.
Bydd y £141 miliwn sy’n weddill yn cael ei wario ar uwchraddio gweithfeydd trin dŵr ac ail osod prif bibelli dwr.
Dywedodd y Cadeirydd, Robert Ayling, y byddai gwaith o uwchraddio’r rhwydwaith ddŵr yn sicrhau dŵr o safon uchel i’w cwsmeriaid.
“Rydw i wrth fy modd bod Banc Buddsoddi Ewrop wedi cytuno i ddarparu £100 miliwn arall er mwyn ariannu ein rhaglen fydd yn gwella’r rhwydwaith dwr a dŵr gwastraff.”
Dyma faint fydd yn cael ei wario ar weithfeydd dwr ar draws Cymru:
Cwellyn (£15 million), Cilfor (£4 million), Mynydd Llandygai (£10 million), Eithinfynydd (£9 million), Penycefn (£8 million), Llidiardau Bala (£7 million), Alwen (£16 million) a Chapel Dewi (£9 million).