Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth sydyn dynes 65 mlwydd oed yng Ngheredigion ddoe wedi cyhoeddi ei henw.

Cafodd corff Patricia Anne Durrant ei ddarganfod mewn eiddo ar stryd fawr Llandysul bore ddoe.

Mae dyn 59 oed wedi cael ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad ac yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu bod rhannau o’r stryd fawr yn parhau i fod ar gau tra bod ymchwiliad ar y gweill. Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio.

Ddoe, dywedodd cynghorydd Plaid Cymru Peter Evans, sy’n byw yn Llandysul:

“Mae’r peth yn hollol frawychus. Dydi pethau fel hyn ddim yn digwydd yn y pentref – mae pawb yn nabod ei gilydd.

“Gall rywbeth fel hyn gael effaith ddychrynllyd ar yr henoed sy’n byw ar ben eu hunain – fe fydd yn creu naws o ofn mawr yn y pentref.”