Mae nifer y bobl sy’n byw yng Nghymru a gafodd eu geni dramor wedi codi 82% yn y ddegawd ddiwethaf.
Ar gyfartaledd, mae hynny’n fwy na’r cynnydd yn Lloegr (61%) a Gogledd Iwerddon (72%), ond yn llai nag yn yr Alban (93%).
Cyhoeddwyd y ffigyrau gan Arsyllfa Ymfudo Prifysgol Rhydychen sydd wedi gwneud y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o boblogaeth fudol Cymru a gweddill gwledydd y DU.
Ym Merthyr Tudful gwelwyd yr ail gynnydd mwyaf o ran canran ym mhoblogaeth fudol unrhyw ardal neu awdurdod yn y DU – 227% rhwng 2001 a 2011.
Yn yr un cyfnod fe wnaeth poblogaeth ymfudwyr Wrecsam, Abertawe a Chasnewydd fwy na dyblu, gyda phoblogaeth fudol Caerdydd yn cynyddu 99% i 45,967 – poblogaeth fudol unigol fwyaf Cymru.
Fodd bynnag, mae’r ffigyrau’n dangos bod cyfran y bobl yng Nghymru yn 2011 a anwyd dramor (5.5%) yw’r gyfran leiaf o unrhyw un o wledydd y Deyrnas Unedig – o’i gymharu â Lloegr: 13.8%, Yr Alban: 7%, a Gogledd Iwerddon: 6.6%.
13% oedd cyfartaledd y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Hefyd, roedd poblogaeth fudol Cymru’n gyffredinol yn llai nag unrhyw ranbarth cyfrifiad yn Lloegr ar wahân i ogledd-ddwyrain Lloegr.
Gwlad Pwyl
Rhoddwyd hwb i dwf poblogaeth fudol Cymru gyda chynnydd sylweddol (1,163%) yn nifer ei phobl a anwyd yng Ngwlad Pwyl – poblogaeth a gynyddodd o 1,427 yn 2001 i 18,023 yn 2011.
Bellach, pobl a anwyd yng Ngwlad Pwyl yw grŵp mudol mwyaf Cymru, ac mae 95% o’r bobl sy’n byw yng Nghymru ac a anwyd yng Ngwlad Pwyl yma ers 2001.
Dywedodd Dr Carlos Vargas-Silva, yr uwch ymchwilydd oedd yn arwain prosiect y cyfrifiad yn yr Arsyllfa Ymfudo ym Mhrifysgol Rhydychen: “Bu cynnydd o 82% ym mhoblogaeth fudol Cymru yn y deng mlynedd rhwng 2001 a 2011.
“Y newid mwyaf oedd y cynnydd yn y boblogaeth a anwyd yng Ngwlad Pwyl – mae’n fwy nag ugain gwaith yr hyn oedd yn flaenorol, a dyma’r grŵp mudol mwyaf yng Nghymru erbyn hyn. Mae hyn wedi bod yn hynod amlwg ym Merthyr Tudful a welodd yr ail gynnydd mwyaf o ran canran yn ei phoblogaeth fudol yn y DU.
“Ond mae’n werth nodi mai gan Gymru y mae’r gyfran leiaf o ymfudwyr yn ei phoblogaeth o holl wledydd y Deyrnas Unedig.
“Oherwydd i Gymru ddechrau gyda phoblogaeth fudol lawer llai na Lloegr – o ran niferoedd a’i chyfran o’r boblogaeth yn gyffredinol – gall twf llai o ran niferoedd fod yn dwf sylweddol fwy o ran canran. Er gwaethaf hynny, bu cynnydd mawr ym mhoblogaeth fudol Cymru, yn arbennig felly yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd.”