Napoli 3–1 Abertawe
Mae Abertawe allan o’r Gynghrair Ewropa er gwaethaf ymdrech ddewr yn erbyn Napoli yn y Stadio San Paolo nos Iau.
Roedd yr Elyrch ar eu ffordd i’r rownd nesaf gyda dim ond chwarter awr i fynd wedi i Jonathan De Guzman unioni yn yr hanner cyntaf yn dilyn gôl gynnar gan y tîm cartref.
Byddai gêm gyfartal gôl yr un wedi bod yn ddigon i’r Cymry ar y rheol goliau oddi cartref ond torrwyd eu calonnau ddeuddeg munud o’r diwedd pan roddodd Gonzalo Higuaín yn ôl ar y blaen cyn i gôl hwyr Gökhan Inler setlo pethau.
Hanner Cyntaf
Napoli a gafodd y gorau o’r ugain munud agoriadol ond daeth cyfle cyntaf y gêm serch hynny i Abertawe a Marvin Emnes. Llwyddodd yr ymosodwr i godi’r bêl dros y gôl-geidwad, Pepe Reina, ond roedd Raúl Albiol wrth law i glirio oddi ar y llinell.
Anelodd Higuaín gyfle gwych dros y trawst yn fuan wedyn yn y pen arall cyn i Lorenzo Insigne’n roi’r Eidalwyr ar y blaen. Llwyddodd i dorri trap camsefyll gwaethaf y ganrif cyn codi’r bêl yn grefftus dros Michel Vorm ac i gefn y rhwyd.
Bu bron i Higuaín ddyblu’r fantais yn fuan wedyn ond anelodd yr Archentwr heibio’r postyn y tro hwn.
Daeth Abertawe fwyfwy i’r gêm wedi hynny ac roeddynt yn haeddu bod yn gyfartal chwarter awr cyn yr egwyl wedi i De Guzman guro Reina ar ôl cael ei ryddhau gan gyffyrddiad gwych Wilfred Bony.
Cafodd Bony ei hunan hanner cyfle i ychwanegu ail cyn yr egwyl ond anelodd ei ergyd yn syth at Reina. Hanner cyntaf da i Abertawe serch hynny.
Ail Hanner
Abertawe oedd y tîm gorau ar ddechrau’r ail gyfnod hefyd er na chrëwyd llawer o gyfleoedd yn yr ugain munud cyntaf. Roedd Dwight Tiendalli yn meddwl ei fod yn haeddu cic o’r smotyn toc cyn yr awr ond doedd fawr ddim cysylltiad arno gan yr amddiffynnwr mewn gwirionedd.
Fe ddaeth cyfle euraidd yr Elyrch hanner ffordd union trwy’r ail hanner a disgynnodd i’r prif sgoriwr, Bony. Cafodd y blaenwr beniad rhydd o bum llath yn dilyn gwrthymosodiad chwim Emnes a Hernández ar y chwith ond anelodd yn syth at Reina.
Byddai gôl bryd hynny wedi rhoi’r Cymry yn y rownd nesaf fwy na thebyg, ond manteisiodd Napoli’n llawn ar eu hail gyfle.
Dim ond deuddeg munud oedd i fynd pan wyrodd y bêl yn greulon oddi ar Ben Davies i lwybr Higuaín yn y cwrt cosbi, a tharanodd yntau hi i gefn y rhwyd.
Roedd yn rhaid i Abertawe sgorio wedi hynny ac roedd angen arbediad da gan Reina i atal peniad Tiendalli dri munud o’r diwedd.
Ond roedd hynny’n gadael bylchau yn y cefn hefyd ac er i Davies wneud yn wych i atal Higuaín rhag rhwydo’r drydedd yn y munudau olaf, fe sicrhaodd Inler y fuddugoliaeth i’r tîm cartref gyda chic olaf y gêm fwy neu lai.
Dim dwywaith mai Abertawe oedd yn haeddu ennill dros y ddau gymal ond bydd rhaid i dîm Garry Monk ganolbwyntio ar aros yn yr Uwch Gynghrair yn unig o nawr tan ddiwedd y tymor.
.
Napoli
Tîm: Reina, Maggio, Ghoulam, Inler, Adriano Buss, Albiol, Callejón (Britos 84′), Behrami, Higuaín, Pandev (Hamsik 59′), Insigne (Mertens 68′)
Goliau: Insigne 16’, Higuaín 78’, Inler 90’
Cerdyn Melyn: Inler 85’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Tiendalli, Davies, De Guzmán (Pozuelo 82′), Chico, Williams, Emnes (Taylor 70′), Cañas, Bony, Hernández, Routledge (Dyer 62′)
Gôl: De Guzmán 30’
Cardiau Melyn: Cañas 47’, Flores 54’, Taylor 90’
.
Torf: 27,000