Nicolas Anelka - euog ond 'anfwriadol' (Llun: Anarghil)
Mae ymosodwr West Brom, Nicolas Anelka, wedi’i wahardd am bum gêm am wneud saliwt gwrth-semitaidd wrth ddathlu gôl i’w glwb.

Cafodd ddirwy o £80,000 hefyd wedi i’r Gymdeithas Bêl-droed ei ganfod yn euog o wneud y saliwt ‘quenelle’ yn yr ornest rhwng West Brom a West Ham ar Ragfyr 28.

Fe wrthododd Anelka yr honiadau fod y saliwt yn wrth-semitaidd, gan ddweud ei bod yn deyrnged i’w ffrind, y comedïwr Dieudonne M’bala M’bala, y person cyntaf a ddaeth yn adnabyddus am wneud yr ystum dadleuol.

Euog

Cafwyd Anelka yn euog o wneud saliwt ymosodol a/neu anweddus ar sail hil, ac o gamymddwyn.

Ond fe ddywedodd y comisiwn yn ystod y gwrandawiad nad oedden nhw o’r farn fod Anelka wedi bod yn fwriadol hiliol.

Fe fydd gan Anelka wythnos i apelio yn erbyn y penderfyniad, ac mae disgwyl iddo gwblhau cwrs ymddygiad.

Mae Dieudonne wedi cael ei erlyn yn Ffrainc am annog hiliaeth, ac mae e wedi’i wahardd rhag dod i’r DU.