Jason Tovey - un o'r rhai ar goll
Fe fydd y Dreigiau’n gorfod ceisio cael dwbl tros Ulster yn Ravenhill nos fory heb nifer o chwaraewyr allweddol.
Mae anafiadau’n golygu y byddan nhw heb y clo a’r capten, Andrew Coombs, y canolwr Jack Dixon, y maswr Jason Tovey a’r asgellwr Will Harries.
Ond fe fydd y prop, Bruce Douglas, sydd ar fenthyg o Fryste, yn dechrau i’r rhanbarth am y tro cynta’.
Roedd Coombs wedi anafu ei ysgwydd wrth ymarfer gyda Chymru, mae gan Dixo anaf i’w droed, Tovey i’w goes a Harries i’w ben.
Fe lwyddodd y Dreigiau i guro Ulster yn Rodney Parade reit ar ddechrau’r tymor ac fe gawson nhw fuddugoliaeth tros Glasgow yn eu gem ddiwetha’.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Rhys Jones, Matthew Pewtner, Pat Leach, Ashley Smith (Capten), Ross Wardle, Steffan Jones a Richie Rees.
Blaenwyr – Owen Evans, T. Rhys Thomas, Bruce Douglas, Matthew Screech, Cory Hill, Jevon Groves, NicCudd a Lewis Evans.
Eilyddion – Nathan Williams, Hugh Gustafson, Duncan Bell, Rob Sidoli, Ieuan Jones, Wayne Evans, Jason Tovey a Jack Dixon.