Carwyn Jones a'r Gweindiog Diwylliant John Griffiths yn datgelu'r cynllun
Mae Prif Weinidog Cymru wedi datgelu dyluniad cofeb newydd i goffáu’r milwyr Cymreig a fu’n ymladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf heddiw.
Bydd y gofeb yn cael ei lleoli ym mhentref Langemark yn Fflandrys, Gwlad Belg.
Sylfaen y gofeb fydd cromlech wedi ei chreu gan bedair carreg Pennant Glas o chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd gyda cherflun o ddraig efydd goch yn eistedd ar ben y gromlech.
Daw’r cyhoeddiad wedi tair blynedd o ymgyrchu gan bwyllgor Cymreig o dan arweiniad Peter Jones a phwyllgor o Fflandrys dan arweiniad Erwin Ureel, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgyrch wedi codi mwy na £100,000 tuag at y gofeb hyd yma.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi £25,000 tuag at y gofeb ac fe wnaeth Carwyn Jones ymweld â’r safle ble bydd y gofeb yn cael ei lleoli ym mis Medi’r llynedd.
Gardd goffa
Mae’r ymgyrch wedi cael cefnogaeth gref yn Fflandrys gyda’r awdurdod trefol lleol yn cyfrannu darn o dir ar gyfer y gofeb. Bydd safle’r gofeb hefyd yn cynnwys gardd goffa.
Derbyniodd Sculpture Cymru bedwar dyluniad ar gyfer y gofeb a dylunydd y cynllun llwyddiannus yw Lee Odishow, 31 mlwydd oed, o Ddinbych y Pysgod.
Mae’n gyn fyfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin, lle mae bellach yn fentor.
Wrth siarad am ei ddyluniad buddugol, dywedodd Lee Odishow: “Mae’r ddraig Gymreig yn symbol o Gymru a’r gobaith yw bod fy ngherflun yn adlewyrchu hyn.
“Rwy’n fwriadol wedi dewis cadw dyluniad y ddraig yn agos at yr un sydd ar faner Cymru felly dylai fod yn hawdd i’w hadnabod i bawb sy’n ymweld â’r safle.”
‘Teyrnged barhaol’
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Rwy’n falch o ddadorchuddio’r dyluniad buddugol a fydd yn deyrnged barhaol i bobl Cymru a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Gan mai hon fydd y gofeb genedlaethol gyntaf tu allan i Gymru, mae’n briodol y bydd y gofeb yn cynnwys cerrig Cymraeg ynghyd a draig, balch, goch.”
Dywedodd Peter Jones o Ymgyrch Cofeb Gymraeg yn Fflandrys: “Hoffem ddiolch i’r holl bobl sydd wedi cyfrannu at yr ymgyrch ac i’r holl sefydliadau sydd wedi gweithio tuag at godi ei broffil.
“Mae gwaith ar y gofeb yn mynd rhagddo’n dda ac mae’r gromlech ei hun bellach wedi’i chwblhau ar y safle.”