Stephen Brookes
Mae teulu Stephen Brookes, 29, a fu farw yn sydyn fore dydd Sul, wedi rhoi teyrnged iddo.
Dywedodd ei deulu ei fod yn “caru ei deulu a’i ffrindiau ac y byddai’n fodlon gwneud unrhyw beth iddyn nhw.”
Mae swyddogion Heddlu De Cymru sy’n ymchwilio i’w farwolaeth yn ceisio darganfod a oedd cysylltiad rhwng y gêm yfed ddadleuol NekNominate a’i farwolaeth.
Wrth chwarae NekNominate, mae pobol ifanc yn ffilmio’i hunain yn yfed diod feddwol mewn un ac yna’n rhoi’r fideo ar wefan gymdeithasol Facebook – cyn enwebu ffrindiau i wneud yr un peth neu hyd yn oed eu herio i fynd un yn well.
Mae marwolaeth tri dyn arall wedi eu cysylltu hefo’r gêm.
Teyrnged
Mewn datganiad, fe ddywedodd teulu Stephen Brookes:
“Magwyd Stephen yn Rhymni ac fe fu’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Rhymni.
“Roedd o’n cael ei adnabod am ei bersonoliaeth fyrlymus, ei gyfeillgarwch a’i haelioni. Roedd pawb yn gwybod ei fod o’n berson doniol – roedd o hyd yn tynnu ar bobol.
“Roedd Stephen yn agos iawn i’w frawd, Paul, ac yn mwynhau cwmni ei dad, yn enwedig wrth chwarae dominos.
“Roedd ganddo galon enfawr ac fe roedd o’n caru ei deulu a’i ffrindiau – byddai’n fodlon gwneud unrhyw beth drostyn nhw.
“Hoffem ddweud diolch am y gefnogaeth rydym wedi ei dderbyn. Fel rhieni, rydym wedi torri ein calonnau. Mi fyddwn ni’n ei golli yn ofnadwy ac rydym yn gobeithio na fydd rhaid i unrhyw un arall fynd trwy’r profiad yma.”