Angharad Tomos - un o'r deuddeg
Mae rhai o awduron amlycaf Cymru wedi nodi eu pryder am Gynllun Datblygu Lleol yn siroedd Gwynedd a Môn, a hynny mewn llythyr agored i’r wasg.

Bwriad y Cynllun yw adeiladu bron i 8,000 o dai yn y ddwy sir yn ystod y degawd nesaf, gan gynnwys adeiladu 366 o dai newydd y tu ôl i Pen-y-Ffridd ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.

Mae’r awduron, sy’n cynnwys y geiriadurwr Bruce Griffiths, y nofelwyr Bethan Gwanas, Dewi Prysor, ac Angharad Tomos, ynghyd â’r Prif Lenorion Meg Elis, Cefin Roberts ac Angharad Price, yn galw ar y ddau gyngor i wneud arolwg llawn o’r angen lleol am dai a gwasanaethau ym mhob cymuned.

Maen nhw’n credu y gall y Cynllun “beri niwed enbyd” i’r Gymraeg.

Daeth y Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn bwnc llosg yng nghyfarfod Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd y mis diwethaf, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn ogystal wedi amlinellu eu pryderon am effaith y codi tai ar y Gymraeg yn ei chadarnle.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 65.4% o bobol Gwynedd yn medru siarad Cymraeg. 69% oedd y ganran yn 2001.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod nhw’n bwriadu codi tai newydd yn seiliedig “ar lefel twf poblogaeth sydd yn is na rhagolygon Llywodraeth Cymru”.

‘Gwaith ymchwil manwl’

“Erbyn hyn mae’n glir i ni fod anfodlonrwydd mawr yn bodoli ynglŷn â’r cynllun i adeiladu miloedd o dai yn y ddwy sir,” meddai Angharad Tomos, sy’n aelod o Gymdeithas yr Iaith.

“Fel un syn poeni am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, ac fel un syn cael gwahoddiad i’r cymunedau hynny yn aml fel awdur, ni allaf bwysleisio pwysigrwydd y cymunedau hynny i barhad y Gymraeg.

“Mae’n fater syml, er mwyn creu Cynllun Datblygu Lleol cynaliadwy i gymunedau Gwynedd a Môn, rhaid cynnal gwaith ymchwil manwl ym mhob cymuned er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg yn ein cymunedau.”

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Rali ‘NA i 8000 o dai’ yng Nghaernarfon ar Fawrth 29.

Y llenorion a’r llythyr

Y deuddeg sydd wedi llofnodi’r llythyr ydi:

Angharad Tomos, Angharad Blaidd, Bethan Wyn Jones, Angharad Price, Bethan Gwanas, Bruce Griffiths, Dewi Prysor, John Rowlands, Meg Elis, Haf Llywelyn, Leusa Fflur a Cefin Roberts.