Bydd aelodau undeb UNSAIN, ynghyd ag aelodau Undeb Prifysgolion a Cholegau ac Unite Cymru, sy’n gweithio mewn addysg uwch yn streicio dros ostyngiad o 13% yn eu cyflogau dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae UNSAIN yn galw ar gyflogwyr i ail-ddechrau trafodaethau am gyflogau yn y sector.

Mae aelodau UNSAIN mewn addysg uwch eisoes wedi strecio ar 31 Hydref a 3 Rhagfyr y llynedd gan geisio gwelliant sylweddol ar gynnig o 1% o godiad cyflog.

Maen nhw wedi penderfynu streicio eto yn dilyn trafodaethau gydag undebau llafur eraill ar ôl i’r cyflogwyr wrthod cynyddu’r cynnig.

Dywedodd Simon Dunn o UNSAIN: “Mae’r cyflogwyr yn dadlau bod cytundeb cyflog teg ar gyfer y mwyafrif o’r gweithlu yn anfforddiadwy ond dyw hyn ddim yn wir.

“Mae rhai is-gangellorion yn cael cyflog o dros £ 200,000 yn ogystal â chartref a char. Pam eu bod nhw’n haeddu’r codiadau cyflog sylweddol pan mae llawer o’n haelodau yn ennill llai na’r cyflog byw?

“Dyna pam mae ein haelodau yn mor ddig a dyna pam eu bod nhw wedi penderfynu cymryd camau diwydiannol. Y cyfan yr ydym yn ei ofyn amdano yw bod pawb yn y sector, o frig y raddfa gyflog i’r rhai ar y gwaelod, yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal.”