Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn am help y cyhoedd, wedi cyfres o ladradau yn ardal de Gwynedd.

Ddydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos hon – Chwefror 4 a 5 – fe fu un lladrad mewn ty yn yr ardal, a thri lladrad o fusnesau ac adeiladau ffermydd yn Dinas Mawddwy a Mallwyd.

“Mae pob un o’r lladradau – a ddigwyddodd, mae’n debyg, dros nos, ac ym mhob achos mae’r lladron wedi cael mynediad i’r eiddo trwy ddrws neu ffenest ar y llawr gwaelod,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru.

“Mae’r lladron wedi targedu arian parod, alcohol a sigarets, ac o’r hyn ydan ni wedi’i gasglu o’n ymholiadau cychwynnol, mae’n ymddangos fod y lladron yn torri i mewn trwy ddefnyddio offer gardd neu dwls eraill sydd wrth law.

“Mae’n bwysig,” meddai’r llefarydd, wedyn, “fod pobol yn gwneud yn siwr fod drysau a ffenestri wedi’u cau, a bod cloeon addas arnyn nhw. Gallai hynny osgoi lot fawr o ofid ac anghyfleustra eto.”

Gall unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y lladradau diweddara’ gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar y rhif 101, neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111 a gadael neges yn ddienw.