Mae nifer o arweinwyr rhyngwladol yn cadw draw o’r seremoni i agor Gêmau Oympaidd y Gaeaf yn Rwsia.
Mewn sawl achos, mae hynny’n brotest yn erbyn cyfreithiau newydd sy’n gwahardd ‘propaganda’ o blaid rhywioldeb hoyw.
Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ac Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, ymhlith y rhai sy’n cadw draw.
Y cystadlu
Mae manylion y seremoni agoriadol, sy’n dechrau ychydig cyn pump heddiw, yn cael eu cadw’n gyfrinach.
Y gemau sy’n costio £30 biliwn ac yn cael eu cynnal ar arfordir y Môr Du yw’r rhai druta’ erioed.
Bydd tua 2,900 o athletwyr yn cystadlu mewn 15 disgyblaeth yn y gemau wrth i ffocws y cyfryngau symud o bryderon ynghylch diogelwch a hawliau dynol i’r campau ei hun.
Mae ‘Tîm GB’ wedi gosod targed o ennill o leiaf tair medal yn Sochi gyda Lizzy Yarnold, sy’n cystadlu yn y sgerbwd, yn ffefryn i fynd adref yn fuddugoliaethus.
Ond Norwy, Canada a’r Unol Daleithiau sydd fwyaf tebygol o fod yn brwydro ar firg y tabl medalau yn Sochi.
Mae trefnwyr y gemau wedi dweud y bydd 66 arweinwyr y byd, gan gynnwys Ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki -moon ac arweinwyr Chdina a Japan yn ymuno ag Arlywydd Rwsia Vladimir Putin yn y seremoni agoriadol.