Mae rheolwr dros dro Abertawe Garry Monk wedi dweud nad oes yna unrhyw broblem rhyngddo ef ac amddiffynnwr Abertawe Chico Flores.
Cafodd yr heddlu eu galw i faes hyfforddi’r Elyrch yn dilyn ffrae rhwng Monk a Flores. Mae Monk bellach wedi dweud bod Flores yn ei gynlluniau i herio Caerdydd prynhawn dydd Sadwrn.
‘‘Mi fydd Chico yn fy nghynlluniau, does dim problem o gwbl ynglŷn â hynny. Roeddwn yn siarad ag ef heddiw am bethau tactegol,’’ meddai Monk wrth Sky Sports.
‘‘Mae gennym berthynas wych, mi wnaeth y digwyddiad diweddar achosi bach o stŵr, ond doedd dim iddi,’’ ychwanegodd Monk.