Garry Monk
Mae hyfforddwr newydd Abertawe, Garry Monk wedi dweud ei fod e a’r chwaraewyr yn barod i herio Caerdydd yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.
Roedd Monk ar y cae hyfforddi am y tro cyntaf y bore ma.
Hon fydd gêm gyntaf Monk wrth y llyw, yn dilyn diswyddo Michael Laudrup yn gynharach yr wythnos hon.
Monk sydd wedi’i benodi tan ddiwedd y tymor, wrth i’r Elyrch frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.
Maen nhw ddau bwynt uwchben y safleoedd disgyn gyda deuddeg gêm yn weddill.
Dywedodd Monk mewn cynhadledd i’r wasg heddiw: “Mae’n gêm enfawr.
“Ond rhaid canolbwyntio ar y bêl-droed ac rwy’n siŵr y bydd Caerdydd yn meddwl yr un fath.
“Dylai fod yn gêm anhygoel.
“Fe gollon ni’r ddarbi gyntaf y tymor hwn a rhaid i ni wneud yn iawn am hynny yn ein barn ni.
“Ond mae’r rhain yn gemau rydych chi am fod yn rhan ohonyn nhw a rhaid canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol a symud ymlaen.
“Mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych.
“Rwy wedi siarad gyda phawb gyda’i gilydd ac ar wahân; rydyn ni i gyd yn cyd-weld ac yn symud ymlaen.”
Ymunodd Monk ag Abertawe yn 2003, ac fe fu’n chwarae dros Abertawe ym mhob un o’r pedair cynghrair yn y Gynghrair Bêl-Droed.
“Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o’r hyn sydd wedi digwydd yr wythnos hon. Bu’n gyfnod prysur.
“Rwy’n nabod y clwb a’r chwaraewyr, does dim byd yn newydd i fi yma.
“Rydyn ni wedi colli chwaraewyr a rheolwyr yn y gorffennol ac wedi ymdopi gyda hynny.
“Allwn i ddim bod yn fwy balch nawr, ond fy mhrif ffocws yw’r chwaraewyr a’r gêm ddydd Sadwrn.”
Alan Curtis fydd yn cynorthwyo Monk am weddill y tymor.
Ychwanegodd Garry Monk, “Mewn sefyllfa fel hon, mae angen pobol arnoch chi sy’n gofalu am y clwb ac sy’n gwybod beth mae Abertawe yn sefyll amdano.”