Cynllun o'r lagwn (llun y cwmni)
Mae’r cais swyddogol cyntaf wedi ei wneud am gael codi lagŵn i gynhyrchu trydan ym Mae Abertawe.

Fe fyddai’n golygu codi wal chwe milltir o hyd ac yn costio rhwng £750 miliwn ac £850 miliwn.

Yn ôl y cwmni y tu cefn i’r cynllun, Tidal Lagoon Power, fe fydd yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 120,000 o gartrefi am gyfnod o 120 mlynedd.

Bwriad Tidal Lagoon yw fod y broses gynllunio – yn benna’ trwy’r Arolygiaeth Gynllunio – yn digwydd erbyn 2015 a’r lagŵn yn dechrau cynhyrchu yn 2018.

Yn ôl y cynllun, fe fyddai yna waith i 1,850 adeg yr adeiladu.

Codi rhagor

Mae’r cwmni’n gobeithio y bydd yn gosod cynsail ar gyfer datblygu rhagor o lagwnau o’r fath, gan ddweud y gallai’r rheiny gynhyrchu cymaint â 10% o anghenion trydan gwledydd Prydain.

Ond maen nhw hefyd yn gwneud cais am sybsidi ar bris y trydan, yn debyg i’r sybsidi sy’n mynd i ffermydd gwynt yn y môr.

Fe fyddai’r gost yn gostwng, medden nhw, os bydd rhagor o lagŵns ac maen nhw’n gobeithio caell pump ar waith erbyn 2023.

Yr ymateb yn eithaf ffafriol

Hyd yn hyn mae’r ymateb o gyfeiriad mudiadau amgylcheddol wedi bod yn dda.

  • Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru’n dweud y byddan nhw’n astudio manylion y cynllun yn y gobaith o allu’i gefnogi.
  • Mae’r Ymddiriedolaeth Adar Dŵr a Gwlyptiroedd eisoes yn cefnogi gan ddweud eu bod wedi rhoi cyngor ar leihau’r effeithiau amgylcheddol.
  • Yn ôl y Gymdeithas Warchod Adar, yr RSPB, maen nhw’n falch fod y sylw’n troi oddi wrth y syniad o forglawdd yn aber afon Hafren, ond yn dal i boeni am yr effaith ar adar.

Ar Radio Wales, er hynny, roedd cyn Ysgrifennydd Cymru, Peter Hain – sy’n un o brif gefnogwyr y syniad o forglawdd – yn dal i ddweud mai hynny oedd yr ateb tymor hir ymhellach i’r Dwyrain.

Fe fyddai un lagŵn trydan gymaint â 150 o gaeau pêl-droed, meddai, ac fe fyddai angen llawer ohonyn nhw i wneud gwaith morglawdd.

Sylwadau’r cwmni

“Gan y Deyrnas Unedig y mae’r ail lanw mwyaf yn y byd a heddiw rydym yn gwneud cais am ddatblygiad a fydd yn profi bod modd harnesio’r adnodd hwn mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol,” meddai Mark Horrocks, Prif Weithredwr Tidal Lagoon Power.

“Mae lagŵns llanw yn cynnig ynni adnewyddadwy sy’n cyfateb i lefel ynni niwclear ac yn golygu buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn diwydiannau Prydeinig a chymunedau glan-môr.”