Mae Heddlu De Cymru yn cynnal ymchwiliad yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd, ar ôl i’r dirprwy brifathro gyfaddef  osod camerâu mewn toiledau i ffilmio plant.

Fe blediodd Gareth Williams, 47, yn euog i dri chyhuddiad o sbecian wrth ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd yr wythnos diwethaf. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa cyn cael ei ddedfrydu mewn gwrandawiad arall yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Chwefror.

Mae llythyr wedi ei anfon at rieni a disgyblion Ysgol Glantaf heddiw yn dweud fod Heddlu De Cymru wedi cael mynediad llawn i’r ysgol.

Camau cyfreithiol

Dywed pennaeth yr ysgol, Alun Davies ei fod yn “destun pryder enfawr i bawb sy’n ymwneud a’r ysgol”.

Clywodd  Llys Ynadon Caerdydd fod yr heddlu wedi dod o hyd i go bach (memory stick) Gareth Williams, gyda lluniau o bump o blant yn defnyddio’r toiled mewn tŷ sydd heb ei enwi. Mae’r lluniau yn dyddio o fis Ionawr 2009 hyd at fis Ionawr 2014.