Mae grŵp cyfryngau rhyngwladol Communicorp Group Ltd wedi prynu grŵp Global Radio, sy’n cynnwys cangen de Cymru Capital Radio a changen gogledd Cymru Real Radio.
Mae’r ddwy orsaf yn rhan o grŵp Global Radio.
Yn dilyn cytundeb i brynu’r gorsafoedd, fe fydd angen sêl bendith yr awdurdodau yn Iwerddon cyn y bydd y cytundeb yn dod i rym, gan fod Communicorp wedi’i leoli yn y wlad honno.
Mae Global Radio yn wynebu archwiliad ar hyn o bryd wedi iddyn nhw dorri rheolau wrth gynnal cystadleuaeth wedi iddyn nhw brynu Real a Smooth ym mis Mehefin 2012.
Yr archwiliad sydd wedi eu gorfodi i werthu rhan o’r cwmni.
Fel rhan o’r cytundeb newydd, fe allai Real Radio newid ei enw i Heart yn y gogledd a Smooth yn y de.
Mae cwmni Global yn cyflogi tua 70 o bobol yng Nghymru, gydag oddeutu 45 yn y gogledd a’r gweddill yn y de.