Y difrod i'r traeth yn Neganwy
Bu’r Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies yng ngogledd Cymru heddiw yn ymweld â chymunedau sydd wedi eu heffeithio gan y stormydd diweddar.
Fe fu’n ymweld â Deganwy yng Nghonwy lle mae’r tywydd garw wedi difrodi’r prom a’r llwybr arfordirol.
“Mae’r difrod sydd wedi ei achosi i’r prom yn ddychrynllyd, ond fe allai effaith y stormydd wedi bod yn llawer gwaeth,” meddai’r Gweinidog.
Bu hefyd yn Yr Wyddgrug, lle mae cynlluniau arfaethedig i osod amddiffynfeydd a fyddai’n gwarchod 360 o dai yn y dref – yn enwedig Cae Bracty, lle mae trigolion wedi dioddef o lifogydd dro ar ôl tro.
“Rydym yn gweithio’n galed iawn i gryfhau’r mesurau i atal llifogydd yng Nghymru”, meddai’r Gweinidog.
“Dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £240 miliwn mewn amddiffynfeydd arfordirol.”
Fe gyhoeddodd Llywodraeth San Steffan heddiw fod £30m o arian ychwanegol wedi ei roi er mwyn helpu cynghorau i atgyweirio’r difrod oherwydd y tywydd garw. Mae’n golygu fod y swm sydd wedi’i neilltuo ar gyfer delio gydag effeithiau’r stormydd diweddar wedi cynyddu i £130m.
Mae rhybuddion llifogydd yn parhau ar draws Cymru, gyda’r diweddaraf gan Gyfoeth Naturiol Cymru am yn dweud bod dau ‘Rybudd Llifogydd’ a naw rhybudd ‘Llifogydd – byddwch yn barod’.