Jeremy Hunt
Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Prydain, Jeremy Hunt wedi mynegi pryder am gyfraddau marwolaethau yng Nghymru, ac wedi galw am ymchwiliad i’r sefyllfa.
Yn ystod dadl yn San Steffan heddiw, dywedodd fod y Blaid Lafur wedi gwrthod cynnal ymchwiliad yn y gorffennol.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad nifer o weithiau yn y gorffennol.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod cleifion yn derbyn gofal o’r radd flaenaf yng Nghymru.
Yn ystod y ddadl, dywedodd Jeremy Hunt fod pobol yng Nghymru’n dioddef “oherwydd bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gwrthod wynebu’r gwir ar fater cyfraddau marwolaethau”.
Fel rhan o Ymchwiliad Keogh, nododd yr adroddiad fod angen cyflwyno mesurau arbennig mewn 14 o ysbytai ym Mhrydain oherwydd diffygion gofal.
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi yn dilyn helynt Ysbyty Stafford.