Llyr Gruffydd
Fe fyddai Plaid Cymru yn ceisio cynhyrchu 100% o’r trydan maen nhw’n ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy erbyn 2035, os fyddent nhw mewn grym.
Dyna ddywedodd llefarydd Ynni Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, wrth iddo sôn am weledigaeth Plaid Cymru ynglŷn â dyfodol ynni i Gymru.
Esboniodd Llyr Gruffydd fod gan Gymru gyfoeth o adnoddau naturiol, ond fod angen canolbwyntio ar sicrhau y bydd yn cwrdd â’i llawn botensial.
Dywedodd hefyd fod datganoli’r holl bwerau dros ynni i Gymru yn allweddol er mwyn cyrraedd y nod hwn.
‘Cyfoeth
“Mae Cymru yn dda iawn am gynhyrchu rywfaint, o feddwl ei bod yn wlad gymharol fach,” meddai Llyr Gruffydd.
“Rydym yn cynhyrchu bron i ddwywaith gymaint ag sy’n cael ei ddefnyddio ac yn cynhyrchu llawer mwy y pen nac y mae Lloegr yn ei wneud.
“Ac eto, dyma ni’n talu mwy am ein trydan na rhannau eraill o Brydain, ac y mae ein lefelau tlodi tanwydd wedi codi i’r entrychion.
“Ar hyn o bryd, mae Cymru yn cynhyrchu mwy o drydan nac y mae’n ei ddefnyddio, ond dim ond 7.9% o hyn ddaw o ffynonellau adnewyddadwy.
“Rydym eisiau mynd i’r afael â hyn. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn gosod targed sy’n cyfateb i 100% o ddefnydd cyfredol Cymru o drydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.”