Buwch ar fferm Lewis Wratten
Mae ffermwr o Hirwaun, Rhondda Cynon Taf wedi cael ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am ddeng mlynedd ar ôl iddo bledio’n euog i gyhuddiadau o achosi dioddefaint diangen i’w wartheg.
Roedd gan Lewis Wratten nifer o wartheg oedd wedi marw ac ar fin marw ar ei dir rhwng mis Ionawr ac Ebrill 2013, meddai swyddogion iechyd anifeiliaid o Gyngor Rhondda Cynon Taf a swyddogion milfeddygol Llywodraeth Cymru.
Clywodd y llys nad oedd tua 150 o wartheg eraill ar y fferm yn cael eu bwydo’n iawn ac roedden nhw’n cael eu cadw mewn amodau anaddas. Doedd y ffermwr ddim yn cofnodi genedigaethau a marwolaethau’r buchod chwaith.
Yn ogystal â’i waharddiad rhag cadw anifeiliaid, cafodd Lewis Wratten ei ddedfrydu i 12 mis o garchar wedi’i ohirio, 200 awr o wasanaeth cymunedol a bydd yn rhaid iddo dalu costau o £6541.30.
‘Gwrthod cydweithio’
Roedd Lewis Wratten wedi gwrthod cydweithio gyda swyddogion iechyd yn y gorffennol er mwyn gwella safonau’r fferm.
Wrth ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, dywedodd y Barnwr John Curran, bod Lewis Wratten wedi bod yn esgeulus ac yn ddiofal am gyfnod hir iawn ac nad oedd yn gymwys i gael unrhyw anifeiliaid yn ei ofal.
Dywedodd Pennaeth Gwarchod Cymunedol Cyngor Rhondda Cynon Taf ei fod yn cymeradwyo penderfyniad y rheithgor i ddedfrydu Lewis Wratten:
“Mae nifer helaeth o ffermwyr yr ardal o ddifrif am y cyfrifoldebau sydd ganddyn nhw dros eu hanifeiliaid, ac yn rhannu’r un meddylfryd a ni am yr achos yma o gam-drin.
“Rwy’n siŵr y bydden nhw hefyd yn falch o weld yr achosion yma o esgeulustod yn dod i ben.”