Fe fydd cyfnod ymgynghorol cabinet Cyngor Merthyr Tudful yn dod i ben heddiw, gyda phenderfyniad yn cael ei wneud ynglyn a rhoi’r gorau i gludo plant chweched dosbarth i’r ysgol am ddim o fis Medi 2014.
Dydd Sadwrn, fe fu 400 o bobl yn gorymdeithio trwy strydoedd Merthyr Tudful mewn protest yn erbyn cynlluniau arfaethedig y cyngor i ddileu’r cludiant am ddim. Dywed pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun, Hywel Price na fydd 90 o ddisgyblion yn gallu cyrraedd eu gwersi os fydd y toriadau yn digwydd.
Mae hefyd yn dweud y gall y toriadau gael effaith sylweddol ar addysg Gymraeg yn yr ardal.
Byddai’r argymhelliad yn arbed £115,000 y flwyddyn, wrth i’r cyngor geisio arbed £15.3 miliwn dros y tair blynedd nesaf.
Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yw’r unig ysgol Gymraeg yn yr ardal, ac mae disgyblion a phennaeth yr ysgol yn dweud na fyddai’n bosib cynnal y chweched dosbarth os yw’r toriadau yn cael eu cymeradwyo.
Cefndir
Er nad yw Ysgol Rhydywaun ym Merthyr Tudful, dyma’r unig ysgol Gymraeg yn yr ardal, gyda bron i hanner y disgyblion chweched dosbarth yn dod o Ferthyr.
Mae disgyblion a phennaeth yr ysgol yn dweud bod y toriadau yn mynd yn gwbl groes i Gynllun Strategol Addysg Gymraeg y Cyngor.
“Mewn amser pan mae arian eisoes yn brin, mae’r cyngor yn bwriadu ein gorfodi i dalu i gael addysg Gymraeg,” meddai Morgan Powell, Prif Fachgen Ysgol Rhydywaun.
“Does dim ysgol gyfun Gymraeg ym Merthyr, felly mae’n rhaid i ni deithio i Ysgol Rhydywaun. Mae bron hanner yr ysgol yn gwneud y daith yma ar hyn o bryd ac mae yna berygl go iawn y byddem ni yn colli ein Chweched Dosbarth a’n hawl i addysg Gymraeg ôl-16,” meddai.
Mae bwriad gan y cyngor hefyd i dorri nifer o wasanaethau eraill fel llyfrgelloedd, gwasanaeth pryd ar glud a chanolfannau hamdden.
Fe fydd penderfyniad y cabinet yn cael ei gyhoeddi am 5 o’r gloch y pnawn ma.