Mae Banc Lloyds wedi neilltuo £1.8 biliwn yn ychwanegol i dalu iawndal i’w cwsmeriaid am gam-werthu yswiriant PPI iddyn nhw.

Er gwaethaf  hynny, mae’r banc yn dal i ddisgwyl gweld elw bach ar gyfer 2013.

Mae Lloyds hefyd wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl ailddechrau gwneud taliadau difidend i’w cyfranddalwyr eleni.

Dydyn nhw heb dalu difidend ers 2008 pan fu’n rhaid i’r Llywodraeth achub y banc gyda £20 biliwn o arian y trethdalwyr.

Dywedodd prif weithredwr Banc Lloyds, Antonio Horta-Osorio: “Rydyn ni’n disgwyl gwneud cais i’r Llywodraeth yn ail hanner 2014 i gael ailddechrau gwneud taliadau difidend.

“Bydd hwn yn gam pwysig arall yn ein taith i adfer ymddiriedaeth a hyder yn ein grŵp.”

Mae’r arian ychwanegol mae’r banc wedi ei neilltuo i dalu iawndal PPI bellach yn dod â’r cyfanswm a gafodd ei neilltuo yn 2013 i £3 biliwn, er gwaethaf gostyngiad yn nifer y bobl sy’n hawlio iawndal.