Merthyr Tudful
Mae disgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun yn y Rhondda yn disgwyl i ddau gant o bobl ddod i brotest ym Merthyr Tudful dydd Sadwrn yn erbyn cynllun y Cyngor i roi’r gorau i gludo plant chweched dosbarth i’r ysgol am ddim.

Mae cabinet y cyngor wedi argymell dileu cludiant i ddisgyblion dros 16 oed o fis Medi 2014 fel rhan o’r cynlluniau i arbed £15.3 miliwn dros y dair blynedd nesaf.

Bydd y cyfnod ymgynghori ar 12 o argymhellion, gan gynnwys yr argymhelliad yma, yn dod i ben ar 3 Chwefror.

‘Bygythiad i’r chweched dosbarth’

Mae bron i fil o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae 91 o bobl ifanc, sef bron i hanner y disgyblion chweched dosbarth, yn dod o Ferthyr.

Mae’r disgyblion a’r Prifathro yn credu y bydd yr ymgais yma gan y Cyngor i arbed arian yn golygu na fydd y disgyblion hŷn yn gallu cyrraedd yr ysgol a bod y toriadau hefyd yn gwbl groes i Gynllun Strategol Addysg Gymraeg y Cyngor.

Bydd gan hyn effaith angheuol ar yr ysgol ond yn bwysicach ar ddyfodol darpariaeth Addysg Gymraeg yn y Sir,” medd y Prifathro Hywel Price.

Ychwanegodd Morgan Powell sy’n Brif Fachgen yn chweched dosbarth Ysgol Rhydywaun bod y toriadau hyn hefyd yn “fygythiad i ddyfodol y Chweched Dosbarth.”

“Mewn amser pan mae arian eisoes yn brin, mae’r cyngor yn bwriadu ein gorfodi i dalu i gael addysg Gymraeg”, meddai.

“Does dim ysgol gyfun Gymraeg ym Merthyr, felly mae’n rhaid i ni deithio i ysgol Rhydywaun. Mae bron hanner yr ysgol yn gwneud y daith yma ar hyn o bryd ac mae yno berygl go iawn y byddem ni yn colli ein Chweched Dosbarth a’n hawl i addysg Gymraeg ôl-16.”

“Rydyn yn gofyn i’r cyhoedd ddod i ddangos cefnogaeth ddydd Sadwrn.”

Mae’r ysgol wedi cysylltu hefo Comisiynydd y Gymraeg ac wedi trefnu fod rhieni yn ymateb yn uniongyrchol i’r ymgynghoriad.

Y brotest


Bydd y brotest yn cychwyn am 11 y bore, ger Y Ffynnon sydd wrth ymyl Eglwys Santes Tudful.

Ymhlith y siaradwyr fydd yr awdur Gareth Miles, un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith.