Mae’r corff sy’n rheoli  Uwch Gynghrair Lloegr yn bwriadu erlyn “nifer fach” o dafarndai yn Ne Cymru y maen nhw’n amau o fod yn dangos gemau pêl-droed Caerdydd ac Abertawe’n anghyfreithlon.

Mae cwmni ymchwil preifat ar ran y Gynghrair wedi ymweld â bron i 200 o dafarndai yn Ne Cymru dros y misoedd diwethaf, yn ôl y BBC, gyda rhai o’r rheiny’n dangos gemau’r Uwch Gynghrair ar sianeli tramor.

Mae’r Uwch Gynghrair wedi dadlau fod hynny’n anghyfreithlon, ac maen nhw’n bwriadu erlyn dros 100 o dafarndai yng Nghymru a Lloegr y tymor hwn gan gynnwys Gwesty Rhyddings ym Mrynmill, Abertawe.

Defnyddio sianeli tramor

Mae tanysgrifio i sianeli tramor yn galluogi tafarndai i ddangos gemau Caerdydd ac Abertawe sy’n cael eu chwarae am 3yp ddydd Sadwrn, gemau sydd ddim ar gael i’w gwylio ar sianeli awdurdodedig y Gynghrair yn y DU, sef Sky Sports a BT Sport.

Mae’r Uwch Gynghrair yn credu bod ganddynt achos cryf i erlyn, yn ôl adroddiad y BBC, gan y byddai unrhyw dafarn fyddai’n dangos y gemau ar sianel dramor yn torri cyfraith hawlfraint os oedd logos y gynghrair yn dangos.

Rhybudd gyntaf

Mae diddordeb mewn dangos gemau Uwch Gynghrair Caerdydd ac Abertawe wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar, yn ôl cyfarwyddwr cyfathrebu’r gynghrair Dan Johnson.

Ac fe ddywedodd wrth y BBC y byddai unrhyw dafarndai oedd yn dangos gemau ar sianeli heb drwydded yn derbyn rhybudd swyddogol cyn unrhyw erlyniad.