Stan Collymore
Mae’r cyn bêl-droediwr Stan Collymore wedi cyhuddo Twitter o “beidio â gwneud digon” i atal sylwadau sarhaus.
Cadarnhaodd yr heddlu neithiwr eu bod nhw’n ymchwilio i gyfres o negeseuon sarhaus a gafodd eu hanfon at gyn ymosodwr Lloegr wedi iddo awgrymu bod ymosodwr Lerpwl, Luis Suarez, wedi twyllo trwy ddeifio yn ystod gêm yn erbyn Aston Villa ddydd Sadwrn.
Ysgrifennodd Stan Collymore ar Twitter: “Yn y 24 awr ddiwethaf mae fy mywyd wedi cael ei fygwth sawl gwaith, rydw i wedi cael fy sarhau, ac mae llawer o’r cyfrifon hyn yn dal i fod yn weithredol. Pam?”
Dywedodd llefarydd ar ran Twitter nad oedd y cwmni’n gallu gwneud sylwadau ar ddefnyddwyr unigol.
Fodd bynnag, nododd bod y cam-drin yn erbyn ei rheolau a bod y cwmni wedi ei gwneud hi’n haws yn ddiweddar i roi gwybod iddynt am negeseuon sarhaus.