Golwg360 sy’n cadw llygad ar holl glecs y ffenestr drosglwyddo ymysg clybiau Cymru a chwaraewyr Cymreig, ynghyd â newyddion am drosglwyddiadau sy’n cael eu cadarnhau.

Clecs

Mae Caerdydd ar fin arwyddo Wilfried Zaha ar fenthyg o Man United, gyda’r asgellwr yn cael prawf meddygol heddiw cyn symud (Manchester Evening News)

Dyw Blackpool heb dderbyn unrhyw gynigion am yr asgellwr Tom Ince, gyda Chaerdydd ac Abertawe wedi dangos diddordeb – ar ôl i’w dad Paul Ince gael y sac gan y clwb ddoe (Sky Sports News)

Bydd Arsenal yn anwybyddu ymdrechion Abertawe a Southampton i geisio benthyg yr asgellwr Alex Oxlade-Chamberlain am weddill y tymor (sportsdirectnews.com)

Mae Man City wedi cyhoeddi’u bod nhw wedi rhyddau Abdisalam Ibrahim – targed i Abertawe a Fulham – o’i gytundeb presennol am ddim (itvsport.com)

Mae Crawley wedi gwrthod cynnig o £400,000 am yr amddiffynwr 21 oed Joe Walsh, a ymunodd o Abertawe yn 2012 ac sydd wedi ennill 7 cap dan-21 dros Gymru (football365.com)

Mae Caerdydd yn dal i ddal gobeithion o arwyddo’r ymosodwr Mame Biram Diouf, gyda chyfryngau’r Almaen yn dweud y gall symud os caiff Hannover rywyn yn ei le neu os yw Caerdydd yn cynyddu’u cynnig cychwynnol o €3m (Bild)

Mae Abertawe wedi gwneud cynnig i fenthyg y chwaraewr canol cae Raoul Loe o Osasuna, yn ôl adroddiadau yn Sbaen (Noticias de Navarra)

Mae Celtic nawr wedi ymuno ag Abertawe yn y ras i geisio arwyddo Rhys Williams o Middlesbrough, fydd o bosib ar gael am tua £1.5m (Daily Mail)

Mae Abertawe’n paratoi cynnig am ymosodwr Bolton David N’Gog, gyda’r Trotters yn fodlon cael ei wared oherwydd ei gyflog uchel (WalesOnline)

Mae Abertawe hefyd yn ystyried gwneud cynnig am chwaraewr canol cae Fiorentina David Pizarro, gafodd gyfnod ar fenthyg llwyddiannus gyda Man City yn 2012 (sportsdirectnews.com)

Bydd yn rhaid i Gaerdydd dalu hyd at £5m os ydyn nhw am arwyddo Nacho Scocco o Internacional, gyda’r clwb o Frasil ddim yn fodlon gadael i’r asgellwr fynd ar fenthyg (clubcall.com)

Mae nifer o glybiau’r Bencampwriaeth, gan gynnwys Ipswich, yn cadw llygad ar Danny Gabbidon wrth iddyn nhw ystyried gwneud cynnig am y Cymro 34 oed o Crystal Palace (twtd.com)

Ond un Cymro wnaeth ddim ystyried gadael Crystal Palace o gwbl y mis hwn yw Jonathan Williams, yn dilyn sôn bod Caerdydd ar ei ôl, gyda’r gŵr 20 oed yn disgrifio Selhurst Park fel ei “gartref” (Croydon Advertiser)

Y ffenestr hyd yn hyn

Tyrrell Webbe (Caerau (Ely) i Gaerfyrddin)

Mark Crutch (Afan Lido i Ton Pentre)

Ashley Williams (Caer i Airbus UK)

Jason Bertorelli (Cambrian & Clydach i Port Talbot) ar fenthyg

Jordan Follows (Caerfyrddin i Llanelli) ar fenthyg

Nicky Maynard (Caerdydd i Wigan) ar fenthyg

Adrian Cieslewicz (Wrecsam i Kidderminster) ffi heb ei ddatgelu

Lewis Codling (Bala i Gaernarfon) ar fenthyg

Sean Smith (Wrecsam i Gap Cei Connah) ar fenthyg

Lee McArdle (Caernarfon i Gap Cei Connah)

Ceri Morgan (Cambrian & Clydach i Gaerfyrddin)

Jay Colbeck (Wrecsam i Fangor) ar fenthyg

Jamie Tolley (dim clwb i Fae Colwyn)

Mats Moller Daehli (Molde i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Kieron Freeman (Notts County i Derby) ar fenthyg

Daniel Collins (Marconi Stallions i Bala) am ddim

Rene Howe (dim clwb i Casnewydd)

Filip Kiss (Caerdydd i Ross County) ar fenthyg

Magnus Wolff Eikrem (Heerenveen i Gaerdydd) ffi heb ddatgelu

Elliot Hewitt (Ipswich i Gillingham) ar fenthyg

Alan Tate (Abertawe i Aberdeen) ar fenthyg

Rudy Gestede (Caerdydd i Blackburn) heb gyhoeddi ffi

Daniel Alfei (Abertawe i Portsmouth) ar fenthyg

Luke Holden (dim clwb i Gap Cei Connah)

Ryan Edwards (Gap Cei Connah i TNS)

Mark Smyth (Gap Cei Connah i Prestatyn)

Gary Roberts (dim clwb i Gap Cei Connah)

Sean Thornton (dim clwb i Bala)

Andy Jones (Y Drenewydd i Airbus)

Michael Burns (dim clwb i Gap Cei Connah)

Russell Courtney (Nantwich Town i Gap Cei Connah)

Gerwyn Jones (Caernarfon i Bangor)

Keyon Reffel (Afan Lido i Gaerfyrddin)

Carlos Roca (dim clwb i Rhyl)