Southport 1–2 Wrecsam
Sicrhaodd gôl hwyr Joe Anyinsah dri phwynt i Wrecsam wrth iddynt ymweld â Haig Avenue i herio Southport yn Uwch Gynghrair Skrill nos Fawrth.
Un yr un oedd hi ar hanner amser yn dilyn dwy gôl gynnar ond bu rhaid aros tan dri munud o’r diwedd am y gôl fuddugol wrth i Anyinsah gipio buddugoliaeth haeddianol i Wrecsam.
Pedwar munud oedd ar y cloc pan beniodd Scott Brown y tîm cartref ar y blaen ond roedd yr ymwelwyr o ogledd Cymru yn gyfartal ddeg munud yn ddiweddarach diolch i gôl o ben David Artell.
Wrecsam a gafodd y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd wedi hynny a chawsant eu haeddiant yn y munudau olaf pan ddaeth Anyinsah o hyd i gornel isaf y rhwyd yn dilyn gwaith creu Andy Bishop.
Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam dri lle yn nhabl y Gyngres. Maent bellach yn ddeuddegfed ond yn parhau chwe phwynt i ffwrdd o’r gemau ail gyfle.
.
Southport
Tîm: Hurst, Jefford, Smith (Joyce 65′), Daly, Nsiala, Brown, Dillon (Osawe 60′), George, Ledsham, O’Sullivan, Brodie
Gôl: Brown 4’
Cerdyn Melyn: George 5’
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, Tomassen, Ashton, Artell, Hunt (Bailey-Jones 71′), Carrington, Anyinsah, Clarke, Keates (Evans 91′), Harris, Bishop
Goliau: Artell 14’, Anyinsah 87’
Cardiau Melyn: Carrington 16’, Clarke 62’
.
Torf: 911