Mae rygbi Cymru’n mynd o un anghydfod i’r llall, yn ôl mewnwr y tîm cenedlaethol, Mike Phillips, ac mae’n dweud nad yw hynny yn debygol o newid.
Mae wedi dweud wrth y rhaglen deledu Hacio ei fod yn falch o fod yn Ffrainc, allan o’r anghydfod.
Mae wedi galw am setlo’r anghydfod yn gyflym ond yn mynnu na fydd y dadlau’n effeithio ar berformiad y tîm cenedlaethol yn y Chwe Gwlad.
‘Wastad rhyw ddrama’
Ers i’r chwaraewr 31 oed ddod yn rhan o’r garfan dros ddeng mlynedd yn ôl, mae’n dweud ei fod wedi gweld llawer o sefyllfaoedd tebyg i’r un bresennol rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r Rhanbarthau.
“Ers i fi fod yng ngharfan Cymru ma’ ’na wastad rhyw ddrama wedi mynd ymlaen ’da Rygbi Cymru, a fel’na fydd e am flynyddoedd i ddod fi’n credu,” meddai Mike Phillips mewn cyfweliad ar raglen Hacio, sy’n cael ei darlledu heno.
Ond mae’nn credu bod angen datrys y sefyllfa bresennol – sy’n golygu nad yw hi’n glir eto ym mha gystadlaethau y bydd Rhanbarthau Cymru yn cymryd rhan y flwyddyn nesaf.
“Gobeithio wnewn ni setlo fe,” meddai. “Mae’n bwysig i chwaraewyr a chefnogwyr, a’r gêm yn y dyfodol.”
‘Dim effaith’ ar Gymru
Ond mae’n dweud nad yw’n credu y bydd yr anghydfod presennol yn cael effaith ar y tîm cenedlaethol, wrth edrych ymlaen i’r Chwe Gwlad.
“Fel chwaraewr fi’n canolbwyntio ar gêm fi, a neud y job yn iawn,” meddai.
Mae’r cyn-chwareawr i’r Scarlets, y Gweilch, a’r Gleision, bellach wedi symud i Ffrainc i chwarae ac mae’n dweud bod hynny’n ei gadw allan o’r ddrama.
“Mae’n gweithio mas yn gret i gael y ddau i fod yn onest – mynd nôl i chwarae i Gymru, a dod mas ’ma (Ffrainc) wedyn, bant o’r pethe sy’n mynd ymlaen yng Nghymru.”
Bydd Hacio yn cael ei darlledu heno (Nos Fawrth) am 9.30pm ar S4C.