Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi dweud nad oes ots ganddo pwy gaiff Cymru yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Ewro 2016, fydd yn dechrau ym mis Medi.
Mae’r enwau’n cael eu dewis ar gyfer y grwpiau ddiwedd mis Chwefror, gyda’r gemau rhagbrofol cyntaf yn dechrau yn yr hydref a’r bencampwriaeth derfynol yn Ffrainc mewn dwy flynedd.
Ond mewn fideo gafodd ei ryddhau ar sianel YouTube Cymdeithas Bel-droed Cymru, dywedodd Coleman nad oedd yn poeni pwy fyddai’r gwrthwynebwyr.
“Dydw i ddim eisiau swnio’n ddi-hid ond dydw i ddim yn poeni pwy sydd yn ein grŵp,” meddai Coleman. “Doed a ddelo, beth ydyn ni’n canolbwyntio arno yw ceisio cael carfan ffit yn gyson.
“Nid ein bai ni oedd hi’r tro diwethaf, weithiau fe gewch chi lwc wael ac rwy’n credu dyna ddigwyddodd.
“Mae’n rhaid i ni roi’r cyfle gorau posib i’n hunain o gael nid yn unig 11 cryf ond carfan gref, ac yn gyson hefyd am rediad o gemau.”
Prawf Gwlad yr Ia
Mae gan Gymru gêm gyfeillgar wedi’i threfnu yn erbyn Gwlad yr Ia ar 5 Mawrth, gêm y disgrifiodd Coleman fel un heriol.
“Dydw i ddim yn gweld pwynt dewis gemau ble rydych chi’n gwybod y gwnewch chi ennill,” meddai Coleman.
“Os ydyn ni am ddringo yn y detholiadau mae’n rhaid i ni wella fel grŵp, ac felly rydyn ni wastad yn dewis gemau cyfeillgar cryf.
“Fe fydd Gwlad yr Ia yn gêm anodd. Roedd y Ffindir yn anodd, Gweriniaeth Iwerddon, Bosnia, Mecsico – i gyd yn anodd i ni.
“Ond dyna sut ydyn ni’n gwella, rydyn ni yn erbyn chwaraewyr a hyfforddwyr da.”
Mae Cymru’n gobeithio trefnu dwy gêm gyfeillgar arall yn yr haf cyn i’r ymgyrch ddechrau ym mis Medi, gyda sôn bod y Gymdeithas Bêl-droed yn ceisio trefnu gemau yn erbyn yr Eidal a Wrwgwai yn Miami.
Ni chafwyd cadarnhad gan Coleman pwy fyddai’r gwrthwynebwyr arfaethedig, ond fe gyfaddefodd bod angen manteisio ar y cyfle i chwarae gemau.
“Os ydyn ni’n lwcus fe gawn ni ddwy gêm arall ar ôl hon [yn erbyn Gwlad yr Ia] cyn i’r bencampwriaeth Ewro ddechrau,” meddai Coleman. “Does gennym ni ddim llawer felly fe fydd yn rhaid i ni wneud y mwyaf o’r cyfle.”
Cyswllt cyson yn broblem
Dywedodd Coleman hefyd fod ef a’i staff yn ceisio gwella o’r ymgyrch diwethaf aflwyddiannus i gyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil eleni – ond nad oedd medru cwrdd yn rheolaidd yn helpu.
“Rydych chi wastad eisiau gorffen yn y modd cywir ac fe wnaethon ni hynny yn y grŵp diwethaf,” meddai Coleman. “Ond hyd yn oed pan ydych chi’n ennill fe wnewch chi gamgymeriadau ac rydych chi eisiau gwella.
“Fel rheolwr rhyngwladol mae’ch staff yn wahanol i’r sefyllfa ddomestig, mae ganddyn nhw waith i’w wneud gyda’u clybiau hefyd.
“Rydym ni’n siarad ar y ffôn yn aml ond mae’n well gweld ein gilydd – rydyn ni’n llwyddo i wneud hynny bob 6-8 wythnos.”
Gallwch weld y cyfweliad llawn gyda Coleman drwy ddilyn y linc yma.