Craig Mitchell
Mae rhanbarth y Gleision wedi cyhoeddi y byddwn nhw’n arwyddo prop Cymru Craig Mitchell o Gaerwysg yn yr haf.

Mae’r blaenwr, sydd wedi ennill 15 cap dros Gymru, wedi arwyddo cytundeb o dair blynedd gyda’r clwb nes 2017.

Arwyddodd Mitchell i Gaerwysg yn 2011, gan wneud dim ond 35 ymddangosiad yn ystod ei ddwy flynedd a hanner diwethaf gyda’r clwb.

Ond fe fydd presenoldeb cyn-chwaraewr y Gweilch yn y sgrym yn hwb mawr i bac y Gleision, yn ôl eu cyfarwyddwr rygbi Phil Davies.

“Mae Craig yn chwaraewr profiadol iawn ac mae’n amlwg wedi dysgu llawer yn ystod ei gyfnod gyda Chaerwysg,” meddai Phil Davies. “Gyda Chwpan y Byd rownd y gornel rydym ni wrth ein bodd fod chwaraewr o safon ryngwladol o’i brofiad ef yn dychwelyd i Gymru.

“Rydyn ni’n gwybod am allu rhagorol Craig fel sgrymiwr, ond mae’i waith caled y tu allan i’r sgrym yn dda iawn hefyd. Bydd y rheng flaen yn gryfach o lawer o’i arwyddo.”

“Amser dod gartref”

Dywedodd Mitchell, 27, ei fod credu mai nawr oedd yr amser iawn i ddychwelyd i Gymru.

“Rwy’n hynod o falch fod cyfle wedi codi gyda’r Gleision ac rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd gyda’m teulu am sialens ffres,” meddai Mitchell.

“Rwyf wedi bod yng Nghaerwysg ers tair blynedd ac mae wedi bod yn brofiad yr wyf wedi elwa ohoni’n fawr. Mae’r clwb a’r hyfforddwyr wedi bod yn grêt, ond mae nawr yn teimlo fel yr amser iawn i ddod gartref.

“Mae Phil wedi siarad â mi ynglŷn â chynlluniau’r Gleision, y garfan mae’n ceisio adeiladu a dwi wedi bod yn eu gwylio nhw drwy’r tymor. Maen nhw’n edrych i chwarae rygbi cyffrous ac rwy’n awyddus i weithio’n galed a gobeithio bod yn rhan o ddyfodol disglair.”

‘Alltud’ arall yn dychwelyd

Daw cyhoeddiad y Gleision am arwyddo Mitchell yn sgil y newyddion fod y Dreigiau wedi arwyddo dau o Gymry eraill sydd wedi bod yn ‘alltudion’ yn ddiweddar, y cefnwr Lee Byrne a’r asgellwr Aled Brew.

Ac fe fydd arwyddo Mitchell yn hwb mawr i’r rhanbarth wrth i’r ansicrwydd barhau dros rai o’u sêr eraill sydd â’u cytundebau’n dirwyn i ben.

Mae Sam Warburton a Leigh Halfpenny ymysg y rheiny sydd heb arwyddo cytundebau newydd gyda’r Gleision eto wrth i’r rhanbarthau barhau i gynnal trafodaethau gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn ag ariannu’r gêm yng Nghymru.

Roedd adroddiadau yn ddiweddar wedi awgrymu fod Warburton yn agos i arwyddo cytundeb canolog gyda’r Undeb, fyddai’n golygu nad ei ranbarth fyddai’n ei gyflogi bellach.