Rhoi prawf anadl
Cafodd dros 460 o yrwyr yng Nghymru eu dal gan yr heddlu yn gyrru ar ôl yfed gormod o alcohol dros y Nadolig.

Yn ystod Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru Cymru, a oedd ar waith rhwng 1 Rhagfyr 2013 ac 1 Ionawr 2014, fe roddwyd profion anadl i 35,255 o yrwyr ledled Cymru.

Rhoddodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru brofion i 18,159 o yrwyr ac roedd 107 o’r rhain yn bositif.

Yn Nyfed Powys, rhoddwyd 11,281 prawf anadl gyda 161 ohonynt yn bositif.

Yng Ngwent profwyd 2,470 o yrwyr ac roedd 39 o’r rhain yn bositif, a rhoddodd swyddogion Heddlu De Cymru 3,345 o brofion gyda 158 ohonynt yn bositif.

‘Siomedig’

Wrth siarad ar ran Heddluoedd Cymru, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Gareth Pritchard: “Er bod digon o rybudd wedi cael ei roi cyn ac yn ystod yr ymgyrch, penderfynodd 465 o yrwyr yng Nghymru anwybyddu ein rhybuddion drwy beryglu eu bywydau eu hunain a rhai pobl eraill drwy dorri’r gyfraith. Mae hyn yn hynod o siomedig.

“Mae hefyd yn rhyfeddol fod rhai pobl bron i bedair gwaith dros y terfyn cyfreithiol. Mae’n amlwg fod yr unigolion yma wedi diystyru eu diogelwch personol a diogelwch gyrwyr eraill.

Ychwanegodd: “Fodd bynnag, nid problem dros y Nadolig yn unig yw yfed a gyrru.  Mae’n difetha bywydau drwy’r flwyddyn. Mae’r rhai sy’n parhau i yfed a gyrru yn dewis gwneud hynny ar hyd y flwyddyn felly rydym angen cymorth y cyhoedd 365 diwrnod y flwyddyn er mwyn ein cynorthwyo ni i dynnu’r bobl yma oddi ar ffyrdd Cymru.”

Os oes gennych chi wybodaeth am unrhyw un sy’n yfed a gyrru neu’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau  ffoniwch Heddlu Dyfed-Powys ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.