Arglwydd Rennard
Mae’r Arglwydd Rennard am gymryd camau cyfreithiol yn erbyn penderfyniad ei blaid i gynnal ail ymchwiliad i’w ymddygiad.

Cafodd yr aelod blaenllaw o’r Democratiaid Rhyddfrydol ei wahardd o’i blaid tra bod achos disgyblaeth yn cael ei gynnal, yn dilyn honiadau ei fod wedi dwyn anfri ar y blaid drwy wrthod ymddiheuro i bedair merch sy’n honni iddo ymddwyn yn amhriodol.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg na fyddai’n “briodol” i’r Arglwydd Rennard ddychwelyd i Dy’r Arglwyddi nes iddo ymddiheuro.

Ond mae’r Arglwydd Rennard yn gwadu’r honiadau ac fe wrthododd ymddiheuro ar ôl i’r ymchwiliad ddod i’r casgliad na ellir profi honiadau’r merched y tu hwnt i amheuaeth.

Mae’n debyg bod  yr Arglwydd Rennard yn cael ei gynghori ynglŷn â cheisio cael gorchymyn llys i atal ail ymchwiliad.