Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, wedi mynnu y dylai’r rhai sydd wedi cam-drin hawliau dynol yn Syria gael eu dwyn o flaen eu gwell ar ôl i dystiolaeth ddangos bod lluoedd Llywodraeth Assad wedi arteithio a lladd miloedd o bobol.

Mae ymchwilwyr yn Llundain wedi bod yn edrych dros 55,000 o ffotograffau, sy’n dangos cyrff wedi eu niweidio’n ddifrifol.

Mae adroddiad yn awgrymu fod lluoedd Arlywydd Syria, Bashar Assad, yn gyfrifol ond mae Damascus yn gwadu’r cyhuddiadau.

‘Arswydus’

Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd William Hague fod Prydain yn gwneud “gwaith sylweddol” i gofnodi achosion o droseddau yn erbyn hawliau dynol:

“Rwyf wedi gweld y dystiolaeth, mae o’n arswydus ac mae’n bwysig fod y rhai a fu’n cyflawni’r troseddau hyn yn cael eu cosbi.”

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Qatar, sy’n cefnogi gwrthryfelwyr yn Syria a grwpiau sy’n gwrthwynebu llywodraeth Assad.