Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd uned newydd i famau a babis newydd yn cael ei chanoli yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Mae’n golygu y bydd y gwasanaeth mamolaeth wedi ei arwain gan ddoctoriaid yn dod i ben yn Ysbyty Llwynhelyg  yn Hwlffordd.

Wrth wneud ei gyhoeddiad yn y Senedd y pnawn ma, dywedodd y gweinidog ei bod hi’n hanfodol i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, ddarparu bydwragedd hefo’r sgiliau y maen nhw ei angen i ddelio hefo achosion brys.

Dywedodd hefyd fod rhaid rhoi trefniadau cludiant mewn lle er mwyn i famau allu teithio i’r uned newydd.

“Mae pob newid mewn gwasanaethau iechyd yn denu beirniadaeth, ond mae’r panel yn credu y bydd yr uned newydd yn gwella’r gwasanaeth ar gyfer mamau a babanod newydd,” meddai Mark Drakeford.

Mae’n amcangyfrif y bydd yr uned newydd yn costio £12miliwn ac fe ddywedodd y gweinidog y byddai’n ystyried cynnal arolwg o’r gwasanaeth ymhen 12 mis.

‘Ergyd drom’

Mae nifer o bobl wedi bod yn protestio yn erbyn y cynlluniau gan ddweud y bydd yn cynyddu’r risg i gleifion.

Mae Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi beirniadu’r penderfyniad: “Rwy’n credu fod y penderfyniad am fod yn ergyd drom i’r gymuned.

“Er bod gwasanaeth sydd wedi ei arwain gan fydwragedd yn cynnig gwasanaeth da mae’n golygu y bydd mamau sydd wedi cael babis yn Llwynhelyg yn gorfod teithio i Gaerfyrddin. Fe fydd mamau yn gorfod teithio yn bellach ac mae hyn yn rywbeth a all roi pwysau mawr ar fam sydd ar fin rhoi genedigaeth,” meddai.

“Mae’r panel archwilio hefyd wedi codi nifer o bryderon am gynlluniau brys y bwrdd. Yn hytrach na thawelu meddyliau darpar rieni y bydd y newidiadau yma’n arwain at well gwasanaeth, fe fyddan nhw’n teimlo eu bod wedi cael eu gadael i lawr gan y bwrdd iechyd lleol a’r Llywodraeth.”

‘Siom enfawr’

Dywedodd AC Plaid Cymru dros y Canolbarth a’r Gorllewin Simon Thomas: “Mae siom enfawr yn Sir Benfro am y penderfyniad i gau’r uned yn Ysbyty Llwynhelyg. Bydd gostyngiad enfawr mewn genedigaethau o 1,200 i 350 y flwyddyn.

“Nid yw pobl yn y Canolbarth a’r gorllewin yn ymddiried ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda ynghylch y newidiadau maent wedi wneud. Yn amlwg, nid yw’r Gweinidog Iechyd yn meddwl fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi paratoi yn ddigonol ar gyfer y penderfyniad hwn, a dyna pam ei fod wedi sicrhau rhwyd ddiogelwch.

“Erys cwestiynau heb eu hateb ynghylch defnyddio’r ambiwlans awyr, cefnogaeth i fydwragedd, a beth fyddai’n digwydd mewn gwir argyfwng.”

‘Cleifion yn ddiogel’

Dywedodd Dr Sue Fish, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw a’r eglurder mae’n rhoi wrth i ni anelu at wneud ein gwasanaethau menywod a phlant yn ddiogel ac yn gynaliadwy i’r dyfodol.

“Rydym yn deall bod pryderon, ond wrth ddatblygu ein cynllunio yn dilyn cyhoeddiad heddiw, byddwn yn ymgymryd â rhaglen helaeth o gyfathrebu er mwyn sicrhau bod pawb yn gwybod beth yw ystyr y newidiadau a phryd fyddant yn digwydd.

“Rydym yn ymwybodol bod achosion penodol yn cael eu hamlygu yn y cyfryngau. Rydym yn glir iawn na fyddai’r Bwrdd Iechyd na’r Gweinidog byth yn cynnig gwasanaeth anniogel ac mae’r sicrwydd mae’r Gweinidog yn sôn amdano – gydag Ymgynghorwyr ar gael ar  gyfer argyfwng prin, wrth i’r model gael ei ddatblygu  – yn sicrhau bod cleifion yn ddiogel.”