Cafodd 25 o blant ysgol gynradd eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gyda mân anafiadau ar ôl damwain bws yng Nghasnewydd heddiw.
Cafodd 28 o blant eraill oedd ar y bws ond oedd heb gael eu hanafu hefyd yn yr ysbyty gydag athrawon a’u rhieni.
Digwyddodd y ddamwain rhwng bws a lori ar yr A48 i’r gorllewin rhwng cylchfan Ffordd Caerdydd a chyffordd 28 yr M4 ger Parc Tredegar.
Roedd y plant yn dychwelyd i’w hysgol ym Mhentre-poeth o wers nofio pan ddigwyddodd y ddamwain. Mae’r plant i gyd bellach wedi gadael yr ysbyty ac mae’r A48 wedi ailagor.