Mae’r Heddlu yn Aberdâr yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ferch ifanc wrth iddi gerdded i’r ysgol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 8:15yb ddydd Gwener diwethaf, 17 Ionawr wrth i’r ferch gerdded ar hyd ochr y gamlas yn y dref.

Credir bod y dyn yn feddw ac fe wnaeth o sarhau a tharo’r ferch cyn cerdded i gyfeiriad Ffordd Cwmbach.

Mae’r heddlu’n credu bod y dyn yn wyn, tua 6 troedfedd o daldra a rhwng 30 a 40 mlwydd oed. Roedd yn foel neu roedd wedi eillio’i ben. Ar adeg y digwyddiad roedd yn gwisgo crys siec gwyn a choch, jîns glas tywyll ac esgidiau gwyn mwdlyd.

Mae unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, neu sy’n credu eu bod yn gwybod pwy oedd y dyn, yn cael eu hannog i ffonio Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.