Mae Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru wedi datgan pryder ar ôl i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ohirio’r holl lawdriniaethau sydd ddim yn rhai brys yr wythnos hon oherwydd pwysau ar adnoddau’r ysbytai.
Mae’r Bwrdd wedi gohirio’r llawdriniaethau yn y tri ysbyty cyffredinol yn y rhanbarth – Ysbyty Gwynedd, Glan Clwyd a Maelor – tan ddydd Llun, 27 Ionawr.
Meddai’r bwrdd iechyd mai’r “cynnydd cyson” sydd wedi bod am ofal brys dros y dyddiau diwethaf sydd wedi ychwanegu at y pwysau ar yr ysbytai.
Mae llawer o’r cleifion yn oedrannus ac yn fregus ac maen nhw wedi gorfod aros yn yr ysbyty yn hirach, sydd wedi arwain at ragor o alw am welyau, meddai’r bwrdd.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mewn datganiad: “Fel rhan o’n gweithdrefnau arferol ar gyfer delio â phwysau o’r fath, mae’r bwrdd iechyd wedi penderfynu lleihau llawdriniaethau yn y tri ysbyty ar gyfer yr wythnos hon.
“Mae triniaethau brys, fel y rhai ar gyfer cleifion sydd â chanser, yn dal i fynd yn eu blaen yn ogystal â llawdriniaethau’r llygaid a llawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Abergele.”
‘Pwysau aruthrol’
Dywedodd Aled Roberts o’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n cynrychioli gogledd Cymru yn y Cynulliad bod y newydd yn destun pryder – yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn hyderus bod cynlluniau mewn lle dros y gaeaf i atal sefyllfa o’r fath rhag digwydd.
Meddai Aled Roberts: “Dyma dystiolaeth bellach bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr o dan bwysau aruthrol a’i fod yn ei chael yn anodd.
“Mae ffigurau diweddar wedi dangos mai Betsi Cadwaladr yw’r bwrdd iechyd sy’n perfformio gwaethaf yng Nghymru o ran amseroedd aros cleifion. Mae llawer o gleifion eisoes yn aros yn rhy hir am driniaeth, felly mae hi’n bryder y bydd yn rhaid i gleifion aros hyd yn oed yn hirach.
“Mae’r cyhoeddiad hwn wedi dod yn sydyn iawn. Mae’n hanfodol, os yw’r bwrdd iechyd yn ystyried ymestyn gohirio gwasanaethau y tu hwnt i ddydd Llun nesaf, y bydd yn rhaid i’r cleifion gael gwybod cyn gynted ag y bo modd.
“Mae’n ymddangos nad oes llawer o obaith cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gael 5% o gleifion yn aros mwy na chwe mis am driniaeth a bod neb yn gorfod aros dros 9 mis.”