Canol tref Wrecsam
Fe gafodd yr heddlu eu galw i siop ddisgownt yn Wrecsam ddoe, wedi i gannoedd o bobol droi fyny ar gyfer sêl 50c yno.

Ond fe gafodd y siopwyr eu gwylltio a gwrthod gadael y siop pan godwyd prisiau’r nwyddau yn ôl i 99c.

Roedd rhaid i’r rheolwr alw’r heddlu a chau drysau’r siop er mwyn atal mwy o bobol rhag dod i mewn.

Hysbysebu

Roedd y siop 99c ar Stryd Regent wedi rhoi hysbyseb yn y ffenest i ddweud fod sêl hanner pris am gael ei chynnal hyd at 28 Ionawr, pan fyddai’r siop yn cau i lawr.

Ond ar ôl cael gwybod bod prydles y siop wedi cael ei ymestyn, fe gyhoeddodd y gweithwyr fod y sêl ar  ben ac y byddai’r prisiau’n cael eu codi yn ôl i 99c.

Roedd tyrfa fawr o bobol y tu mewn i’r siop ar y pryd a mwy yn ciwio y tu allan a bu’n rhaid i’r staff gau drysau’r siop er mwyn atal mwy o bobol rhag dod i mewn.

Yn ôl adroddiadau ym mhapur y Wrecsam Leader roedd cwsmeriaid yn dadlau gyda’r  staff cyn i bedwar swyddog heddlu gael eu galw yno.

“Roedd pobol yn gweiddi ac yn hollol gynddeiriog,” meddai Sharon Roberts, o Rosnesni wrth y papur.

“Dywedodd y siop yn y diwedd y byddai pobol yn cael prynu dau beth am bris un.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi cael eu galw i gynorthwyo mewn siop yn Wrecsam ddoe.

“Roedd y siop yn brysur iawn ac fe wnaethon ni aros yno nes bod y sefyllfa wedi tawelu,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.