Mae prif weinidog Sbaen wedi dweud na fydd yn gadael i ranbarth Catalonia gynnal refferendwm dros annibyniaeth.
Dywedodd Mariano Rajoy wrth sianel deledu Antena 3 na fydd y bleidlais mae llawer o Gatalaniaid eisiau yn cymryd lle.
Ychwanegodd y prif weinidog: “A thra bydda i yn brif weinidog llywodraeth Sbaen ni fydd annibyniaeth i unrhyw diriogaeth o Sbaen”.
Daw ei sylwadau llai nag wythnos ar ôl i Senedd ranbarthol Catalonia wneud cais ffurfiol i’r llywodraeth ganolog ym Madrid i drosglwyddo pwerau i Gatalonia fel y gallai refferendwm gael ei gynnal.
Mae gan y Prif Weinidog fwyafrif llwyr yn y senedd ac mae’r brif wrthblaid Sosialaidd hefyd yn gwrthwynebu rhoi hawl i Gatalonia gynnal refferendwm.