Mae cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi pleidleisio o blaid codi’r dreth gyngor o 5% o fis Ebrill ymlaen.

Mae’r newid yn golygu fod y dreth ar gyfer eiddo ym mand D yn cynyddu £48 y flwyddyn i £1,019.21.

Mae Cyngor Ceredigion yn ceisio arbed £9.4 miliwn ar ôl derbyn 5.1% yn llai oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer 2014/15.

Mae’r cyngor eisoes yn ystyried gwneud toriadau i wasanaethau llyfrgelloedd, pyllau nofio a chanolfannau hamdden ac edrych ar faint dosbarthiadau yn ysgolion y sir.

Un o awgrymiadau dadleuol y cyngor oedd cyflwyno taliadau parcio ar y Sul a fydd yn golygu tua £56,000 yn ychwanegol y flwyddyn.

Mae’r cyngor yn dadlau bod y dreth gyngor yng Ngheredigion yn is na’r cyfartaledd trwy Gymru.

Bydd y cabinet yn gorfod cael sêl bendith y cyngor llawn cyn cyflwyno’r codiad i’r dreth gyngor.