Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn Harlech heno er mwyn trafod dyfodol pwll nofio’r dref.

Yn ôl un o gyfarwyddwyr y pwll, Dylan Hughes, mae sefyllfa ariannol y pwll yn “dynn ofnadwy” oherwydd dyledion, ac mae’n gobeithio y bydd y cyfarfod yn annog y gymuned i gael mwy o ddefnydd o’r pwll, y caffi a’r wal ddringo.

Tri chyfarwyddwr sydd ar y bwrdd ar hyn o bryd ond yn ôl Dylan Hughes, nid yw hynny’n ddigon.

“Yn ddelfrydol, mae angen 5 cyfarwyddwr er mwyn cyfrannu at y penderfyniadau mawr sydd angen eu gwneud yn y dyfodol.”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Theatr Harlech heno ac yn cychwyn am 6:30.

Gwirfoddoli

Bu dyfodol y pwll yn y fantol ers 2009 pan ddywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn bwriadu ei gau.

Ond ym mis Rhagfyr 2010 fe drosglwyddwyd yr awenau i sefydliad cymunedol Hamdden Harlech ac Ardudwy.

“Mae hynny yn ei hun yn dangos fod ’na ysbryd cymunedol yn y pentref,” meddai Dylan Hughes, “ond rydym ni angen mwy o bobol i wirfoddoli”.

Mae mwy o ddigwyddiadau wedi cael eu trefnu i ddenu pobol i’r ganolfan gan gynnwys boreau coffi, nosweithiau dysgu Cymraeg, ac mae’r awdur a’r dringwr Jim Perrin yn dod i siarad yn y ganolfan ar 8 Chwefror.