Harbwr Porthcawl
Mae penaethiaid cwmnïau rhwydwaith ynni’r DU wedi bod yn amddiffyn yr amser roedd wedi cymryd i adfer cyflenwad trydan i gartrefi yn sgil y stormydd dros gyfnod y Nadolig.

Dywedodd Basil Scarsella, prif weithredwr Rhwydweithiau Ynni DU, wrth Aelodau Seneddol bod y cyfuniad o’r stormydd garw dros rannau eang o’r wlad wedi golygu bod eu system wrthgefn wedi cael trafferth ymdopi.

Ychwanegodd nad oedden nhw wedi rhagweld y byddai’r gwyntoedd cryfion wedi parhau mor hir gan achosi difrod sylweddol.

Bu mwy na 150,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan ar ôl i wyntoedd cryfion, glaw trwm a llifogydd achosi difrod i geblau trydan. Bu nifer o gartrefi heb drydan am hyd at bum niwrnod.

Ond mae cadeirydd y pwyllgor ynni Tim Yeo wedi beirniadu’r penaethiaid am beidio a “mynegi unrhyw bryder go iawn am eu cwsmeriaid” gan eu cyhuddo o laesu dwylo.

Dywedodd Mark Mathieson, rheolwr gyfarwyddwr rhwydweithiau trydan SSE nad oedan nhw wedi gweld difrod o’r fath ers y 90au cynnar a storm fawr 1987 ond eu bod nhw wedi dysgu gwersi o’r digwyddiad a bod eu hymateb i ddigwyddiadau o’r fath wedi gwella’n sylweddol dros y 25 mlynedd diwethaf.

Fe awgrymodd y gallai’r cwmnïau gydweithio gydag asiantaethau er mwyn gwella’r amser ymateb i dywydd garw yn y dyfodol.