Label y cwrw, Fuzzy
Mae’n ymddangos nad yw’r Super Furry Animals yn fand i aros yn segur yn rhy hir – wrth iddyn nhw baratoi i lansio cwrw ei hunain mewn gŵyl arbennig fis nesaf.

Ar hyn o bryd mae’r rocers Cymreig yn cael saib o’r gerddoriaeth, ac mae’r band wedi cymryd y cyfle i weithio ar eu cwrw newydd, ‘Fuzzy’, sydd wedi’i enwi ar ôl eu halbwm gyntaf Fuzzy Logic.

Bydd y cwrw, sydd wedi cael ei gynhyrchu gan fragdy Celt Experience, yn cael ei gynnig am y tro cyntaf yng Ngŵyl Tân yn Stad Pontygwindy yng Nghaerffili ar 1 Chwefror.

Ac mae’r band yn bwriadu bod yno i gynnig samplau o’r cwrw am ddim, yn ogystal â chwarae rhan y DJ i’r gynulleidfa ar y noson.

Ers eu halbwm diwethaf yn 2009 – Dark Days/Light Years – mae Gruff, Guto, Cian, Daf a Bunf wedi bod yn gweithio ar eu prosiectau eu hunain, gyda’r brodyr Cian a Daf wrthi’n cwblhau eu halbwm diweddaraf The Earth.

Mae diod feddwol y Furries yn dilyn lansiad Goldie Lookin’ Ale y llynedd, cwrw a gafodd ei greu rhwng y rapwyr o Gasnewydd Goldie Lookin’ Chain a Bragdy Tiny Rebel.

Bydd yr Ŵyl, fydd yn cynnwys arddangosfeydd o fwydydd, celf a chwrw, yn gorffen gyda sioe tân am hanner nos.

Gallwch weld mwy o wybodaeth am Ŵyl Tân y Celt Experience ar eu gwefan, www.celtexperience.com.